Cymerau Lansiad / Cymerau Launch - 20/06/15
Cymerau yn lansio blwyddyn o brojectau dan arweiniad artistiaid, mewn ymgais i archwilio ein perthynas â dŵr.
Cymerau launches a year of artist-led projects to explore our relationships with water.
Ar 20 Mehefin, bydd Cymerau (project 3-blynedd) yn lansio’r gwaith o greu Map Dŵr yn y Borth. Gyda chymorth gan artistiaid lleol, bydd y map yn adlewyrchu rhai o’r storïau niferus ynglŷn â dŵr a geir yn y Borth a Thal-y-bont a’r cylch. Rhennir y storïau hyn mewn digwyddiadau tymhorol sydd i’w cynnal trwy gydol y flwyddyn i ddod.
Bydd y lansiad yn ddiwrnod o hwyl ar gyfer pob oedran, gan gychwyn i fyny’r grisiau yn Nhafarn y Victoria, o 1pm ymlaen. Dangosir ffilmiau a bydd artistiaid yn trafod eu gwaith, gyda lluniaeth ar gael. Yn y prynhawn, cynhelir gweithgareddau teuluol ar y traeth, gyda chaneuon gan y côr lleol a draenog môr mawr yn arnofio ar y môr. Gan ddechrau yn yr haf, bydd artistiaid yn arwain amryw o brojectau o gwmpas Tal-y-bont a’r Borth er mwyn tynnu cymunedau i mewn i weithgareddau a thrafodaethau sy’n gysylltiedig â dŵr. Mae’r artistiaid hyn wedi’u dewis yn ofalus a’u cyllido gan Cymerau i greu ffyrdd unigryw a chyffrous o gysylltu â dŵr; p’un a fyddo hynny’n golygu edrych ar ein perthynas ag afon, traeth neu gors benodol, neu ystyried y dirwedd newidiol. Mae’n gyfle i drigolion Biosffer Afon Dyfi feddwl am yr hyn y mae bod yn ddinesydd ecolegol yn ei olygu. Gwneir y gwaith trwy amryw o ddulliau creadigol, er enghraifft, theatr ieuenctid, ffilm, barddoniaeth, cerddoriaeth a pherfformiadau yn yr awyr agored. Bydd artistiaid Cymerau yn rhyngweithio â dyfrwedd Afon Leri, Cors Fochno a’r Borth ac â phobl sy’n ymweld â’r lleoedd hyn, yn byw yno neu’n gweithio yno. Byddant hefyd yn cynnal gweithdai â grwpiau, gan gasglu straeon a gwybodaeth gan unigolion, a chan sefyll i siarad am ddŵr wrth iddynt gyfarfod ar y dirwedd ac mewn cyfarfodydd yn y pentrefi. Mae hon yn rhan o astudiaeth academaidd a gynhelir ar draws y DU, sef 'Hydroddinasyddiaeth' (2014-17), sy’n cyfuno ymchwil academaidd â chyfranogiad gan gymunedau a gweithgareddau creadigol. Yn lleol, mae Cymerau yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor a phartneriaid yn y gymuned, sef Creu-ad ac Ecodyfi. Rydym yn cael cyngor gan arbenigwyr ym meysydd hydroleg, newid hinsawdd a chelfyddydau cyfranogol. Rydym hefyd yn siarad â llunwyr polisïau a sefydliadau sy’n gweithio ar y tir. Mae rhaglen yr Hydref yn cychwyn gyda gosodiad stryd yn y Borth, yn portreadu’r effaith a gaiff codiad yn lefel y môr ar gymunedau ar draws y byd; archwiliad o Gors Fochno trwy ffilm a cherddoriaeth; gweithdai mewn baledi Cymraeg i’w cynnal yn Nhal-y-bont ac adeiladu siediau yng Ngerddi Cymunedol y Borth! Mwy o wybodaeth: Mae’r project wedi’i gyllido gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) fel rhan o’r rhaglen Cymunedau Cysylltiedig. Nod y rhaglen hon yw creu cydweithrediadau grymus rhwng ymchwilwyr a chymunedau, er mwyn ffurfio syniadau unigryw ynglŷn ag ymchwil ynglŷn â swyddogaeth newidiol cymunedau o ran cynnal a gwella ansawdd ein bywydau ac i greu gwaddolion o werth, ar gyfer ymchwil yn y dyfodol a hefyd i gymunedau. Arweinir y rhaglen gan AHRC ar y cyd â Chynghorau Ymchwil eraill ac amrywiaeth o sefydliadau eraill. Gweledigaeth ynglŷn â’r rhaglen Ysgogi’r posibiliadau i gymunedau sy’n dod yn fwyfwy cysylltiedig ddod yn fwy hunan-ddibynnol, llewyrchus, cynaliadwy, iach a ffyniannus, a hynny trwy greu gwell cyswllt rhwng ymchwil, budd-ddeiliaid a chymunedau. Bydd y lansiad yn rhan o Ŵyl y Cymunedau Cysylltiedig 2015 sydd i’w chynnal gan AHRC, gyda digwyddiadau ar draws y DU rhwng 15 a 29 Mehefin. |
Cymerau (a three-year project) will launch the creation of Map Dŵr (Water Map) in Borth, June 20th. With help from local artists, this map will reflect some of the many water stories in and around Borth and Tal-y-bont. These stories will be shared at seasonal events throughout the forthcoming year.
The launch will be fun day for all ages, beginning upstairs at the Victoria Pub, from 1pm onwards. Films will be shown, and artists will talk about their work, with refreshments served. In the afternoon there will be family activities on the beach, with songs from the local choir and a giant urchin floating on the sea. Starting this summer, artists will lead various projects around Tal-y-bont and Borth to engage communities in activities and discussions about water. These artists have been carefully selected and funded by Cymerau to provide unique and interesting ways to relate to water; whether it’s exploring our relationship with a particular river, beach and bog, or considering the changing landscape. It's an opportunity for residents of the Dyfi Biosphere to think about what it means to be an ecological citizen. The work will be carried out in a variety of creative ways, for example, through youth theatre, film, poetry, music and outdoor performances. Cymerau artists will interact with the waterscape of the River Leri, Cors Fochno and Borth and with the people who visit, live or work in these places. They will also be running workshops with groups, collecting stories and information from individuals, and stopping to talk about water during their encounters in the landscape and at gatherings in the villages. This is part of a UK-wide academic study, 'Hydrocitzenship' (2014-17), which combines academic research with community participation and creative activities. Locally, Cymerau is a partnership between Aberystwyth and Bangor University and community partners Creu-ad and ecodyfi. We are being advised by experts in hydrology, climate change and participatory arts. We are also talking to policy-makers and organisations working on the ground. The Autumn program starts with a street installation in Borth, portraying the effects of sea-level rise on communities across the world; an exploration of Cors Fochno through film and music; Welsh ballad workshops in Tal-y-bont and shed-building at Borth Community Gardens! Further information: This project has been funded by the Arts and Humanities Research Council (AHRC) as part of the Connected Communities programme. This programme aims to build powerful collaborations between researchers and communities to generate distinctive research insights on the changing role of communities in sustaining and enhancing our quality of life and to produce legacies of value for both future research and for communities. The programme is led by the AHRC in partnership with other Research Councils and a range of other organisations. Programme vision To mobilise the potential for increasingly inter-connected communities to enhance self-reliance, prosperity, sustainability, health & well-being by better connecting research, stakeholders and communities. The launch will be part of the AHRC Connected Communities festival 2015, with events taking place at locations across the UK between June 15th and 29th. |