AMDANOM NI / ABOUT US
Mae dŵr yn adnodd hanfodol
Gwahoddir cymunedau sy’n byw yn y Borth, Tal-y-bont a’r ardaloedd cyfagos i gymryd rhan yn ‘Cymerau’. Prosiect am ddŵr a’i holl agweddau yw hwn. Mae’n gofyn cwestiwn syml: Beth mae ‘dŵr’ yn ei olygu i ni, fel cymunedau ac fel unigolion? Nid ydyn ni’n meddwl yn ymwybodol iawn am ddŵr bob amser, ond mae’n rhan o’n cyrff, ein cymunedau, ein bywydau bob dydd a’n harferion. Mae hefyd yn rhan annatod o’n hecosystemau, economi, a thirweddau lleol. Mae dŵr yn ein cysylltu a’n gwahanu, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae hefyd yn llifo drwy ein gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Beth sy’n digwydd os ydyn ni’n rhoi amser i ystyried o ddifri pa mor bwysig yw dŵr i ni gyd? A yw hyn yn ein helpu i fod yn ddinasyddion da? Ymchwil a rhyngweithio Prosiect ymchwil academaidd tair blynedd yw Hydrocitizenship (2014-2017) a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae academyddion o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn gweithio gyda chymunedau, hyrwyddwyr ac artistiaid i hybu trafodaethau am ddŵr. Mae hyn hefyd yn golygu cysylltu ag arbenigwyr ym maes hydroleg a newid hinsawdd, a siarad â gwneuthurwyr polisïau a sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru. Gweithio trwy gyfrwng y celfyddydau Rydym wedi comisiynu nifer o artistiaid i weithio gyda chymunedau dros gyfnod o ddeuddeng mis, rhwng mis Medi 2015 a mis Awst 2016. Caiff y gwaith creadigol hwn ei gyflwyno ym mhob tymor: Hydref, Gaeaf, Gwanwyn a Haf. Byddwn hefyd yn creu Map Dŵr, sef map digidol i adlewyrchu’r llu o storïau lleol sy’n dod i’r amlwg yn ystod y broses hon. Pam gweithio yn y modd hwn? Pan drefnir digwyddiadau ymgynghori lleol ynglŷn â materion megis gorlifo neu waith amddiffynfeydd morol, prin iawn yw’r niferoedd sy’n mynychu. A oes ffordd well o hysbysu a gwrando ar gymunedau lleol? Rydym yn defnyddio gweithgareddau celf creadigol a chyfranogol i brofi ffyrdd newydd o weithio gyda’n gilydd i ymdrin â phroblemau dŵr cyfoes. Mae Cymerau yn ymdrechu i gynyddu ymwybyddiaeth; i werthfawrogi dŵr ac i’w gymryd o ddifri. Gobeithiwn wella’r cyfathrebu rhwng cymdogion, pobl gyda diddordebau sy’n gwrthdaro, a rhwng gwneuthurwyr polisi a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Gweithredu’n greadigol - gwahoddiad Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i helpu i greu gweithiau celf a digwyddiadau cyhoeddus. Dewch i gymryd rhan! Mae’r prosiect hwn ar waith hefyd ym Mryste, Lee Valley (Llundain), a Shipley (Leeds). Enw’r prosiect ledled y DU yw Hydrocitizenship. Yn lleol rydym wedi penderfynu ar y teitl Cymerau. Cysylltiadau Cymerau: TEAM |
Water is a fundamental resource
Communities in and around Borth and Tal-y-bont, are warmly invited to take part in 'Cymerau'. This is a project about water in all its aspects. It asks a simple question: What does ‘water’ mean to us, as communities and individuals? We don’t always think very consciously about water, but it is part of our bodies, communities, daily lives and habits. It is also integral to our ecosystems, economy, and local landscapes. Water connects and divides us, both locally and globally. It also flows through our past, present and future. What happens if we take the time to really consider how important water is to us all? Does this help us to become good citizens’? Research and interaction Hydrocitizenship is a three-year academic research project (2014-2017) funded by the Arts and Humanities Research Council. Academics from a wide range of disciplines are working with communities, facilitators and artists to promote a conversation about water. This also means liaising with experts in hydrology and climate change, and talking to policy-makers and organisations like Natural Resources Wales. Working through the arts We have commissioned a number of artists to work with communities over a twelve-month period, September 2015 – August 2016. This creative work will be presented in each season: Autumn, Winter, Spring and Summer. We will also create Map Dŵr, a digital 'water map' to reflect the many local stories that emerge through this process. Why work in this way? When local consultation events are held over issues like flooding or sea-defence work, they are often poorly attended. Could there be a better way of informing, and listening to local communities? We’re using creative and participatory art activities to test new ways of working together to address contemporary water issues. Cymerau strives to raise awareness; to appreciate water and to take it seriously. We hope to improve communication between neighbours, people with conflicting interests, and between policy makers and the communities that they serve. Creative action – an invitation This project offers opportunities to help create public events and artworks. Get involved! This project is also active in Bristol, the Lee Valley (London), and Shipley (Leeds). The UK-wide project is known as Hydrocitizenship. Locally, we have decided on the title Cymerau (Confluence). Cymerau contacts: TEAM |