Prosiect tair blynedd yw Hydrocitizenship (2014-2017) sy’n cyfuno ymchwil academaidd â chyfranogiad cymunedol a gweithgareddau creadigol. Bydd yn ein cynorthwyo i fyfyrio ar y syniad o ddinasyddiaeth mewn perthynas â materion amgylcheddol (ac yn enwedig felly materion cysylltiedig â dŵr) a sut y gall hyn fynd â ni’n nes at gymdeithas sy’n fwy cynaliadwy.
Hanfod y prosiect yw edrych ar agwedd unigolion a chymunedau tuag at ddŵr a materion cysylltiedig â dŵr; sut y cafodd y materion hyn eu trin yn y gorffennol; pryderon a brwydrau amgylcheddol cyfredol a dyfalbarhad i’r dyfodol yn wyneb newidiadau. Gellir datblygu perthynas o fewn cymunedau a rhwng cymunedau trwy astudio hanes y berthynas rhwng pobl a dŵr yn y gorffennol a heddiw. Mae dŵr yn adnodd hanfodol i gymdeithas, ac ar hyn o bryd mae nifer o faterion heriol yn ymweud â dŵr yn wynebu cymunedau yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol. Maen nhw’n cynnwys pryderon am lifogydd, lefel y môr yn codi, y newid yn yr hinsawdd, sychder a diogelwch cyflenwadau dŵr, ansawdd dŵr, bioamrywiaeth ac ansawdd tirwedd, defnyddio dŵr i weithgaredd hamdden, dŵr ac ynni, draenio trefol effeithiol, a rheoli gwastraff. Cynhelir astudiaethau achos mewn pedair ardal: dalgylch rhan isa’r afon Dyfi yn rhan Ceredigion o Biosffer Dyfi; Bryste; Lee Valley yn Llundain; a Shipley yng ngorllewin Swydd Efrog. Mae tîm ym mhob ardal sy’n cynnwys academyddion, artistiaid ac ymarferwyr cymunedol, a fydd yn rhannu sgiliau, dulliau a phrofiad ac a fydd yn gweithio’n agos gyda’r bobl yn eu hardaloedd. Mae ein hardal ni’n cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Creu-ad ac ecodyfi. Rydyn ni eisiau cychwyn trafodaethau am ddŵr. Yn lleol, rydyn ni eisiau deall beth sy’n bwysig i bobl a phwy fyddai’n hoffi cymryd rhan trwy fynegi hyn yn greadigol. Y disgwyl yw y bydd y prosiect yn cynnwys artistiaid a gwneuthurwyr proffesiynol. Gobeithio y bydd y sylw nid yn unig yn gwella’n dealltwriaeth ni ond hefyd yn hysbysu ac ysbrydoli gweithredu (y tu hwnt i’r prosiect) sy’n ymateb i’r materion a godir. I gadw mewn cyswllt â digwyddiadau a datblygiadau, rhowch wybod i ni fod gyda chi ddiddordeb trwy un o’r dulliau isod: Ymunwch â’r drafodaeth yn www.hydrocitizens.com |
Hydrocitizenship is a three year project (2014-2017) that combines academic research with community participation and creative activities. It will help us to reflect on the notion of citizenship in relation to environmental (and especially water-related) concerns and how this can move us towards a more sustainable society.
The project is about looking at how individuals and communities relate to water and the issues associated with it; how these were dealt with in the past; current environmental concerns and conflicts and future resilience in the face of change. Relationships within communities and between communities can be developed through exploring the stories of past and current relationships between people and water. Water is a fundamental resource for society, and at present a range of challenging water issues face communities in the UK and internationally. These include concerns about flooding, sea level rise, climate change, drought and supply security, water quality, biodiversity and landscape quality, access for recreation, water and energy, effective urban drainage, and waste management. There are four case study areas: the lower Dyfi catchment in the Ceredigion part of the Dyfi Biosphere; Bristol the Lee Valley in London; and Shipley in West Yorkshire. Each case study area has a team that includes academics, artists and community practitioners, who will share skills, methods and experience and who will work closely with the people in their study areas. Ours includes Aberystwyth University, Creu-ad and ecodyfi. We want to start conversations about water. Locally, we want to understand what is important to people and who would like to be involved in expressing this creatively. We expect to involve professional artists and makers in this. We hope that this attention will not only increase understanding but inform and inspire actions (outside of this project) that respond to the issues raised. To keep in touch with events and developments, let us know you’re interested through one or more of the following ways: Join the conversation at www.hydrocitizens.com |