Detholiad o sgwrs gyda Ffion Jones, sydd yn artist ac yn ffermio yng nghanolbarth Cymru. Mae Ffion wedi cwblhau PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, a oedd yn cyfleu bywyd ffermio i'r cyhoedd, drwy ddulliau celfyddydol. Mae hi hefyd wedi ei chomisiynu gan Cymerau/Hydrocitizenship i archwilio perthynas ffermwyr gyda dŵr, ar hyd yr afon Leri.
Sara: Beth yw dy gysylltiad gyda’r ardal yma? Be dan ni’n ei weld tu ôl i ti?
Ffion: Dyma lle ‘dw i’n byw, nawr, yn Nhal-y-bont, ond 'dw i'n wreiddiol o Fachynlleth, wedi symud yma tua chwe mlynedd yn nol. Nawr 'dw i’n byw yma gyda fy nghariad i, a fy merch fach ar y fferm. Ni’n ffermio fan hyn: defaid, ac ychydig bach o wartheg, a cheffylau. Dim ffermio ceffylau, ond mae pobl yn rhentu stablau ac yn cadw eu ceffylau nhw fan hyn.
Sara: Sut fyddet ti’n disgrifio dy gysylltiad di gyda’r tirwedd, yn yr ardal hon?
Ffion: 'Dw i wastad wedi bod yn berson sydd yn hoffi bod tu allan, ac make fy nghysylltiad i gyda’r tirwedd yn naturiol wedi dod o fy mhlentyndod ‘dw i’n credu, ac o’r ffaith fy mod i’n ferch fferm o Fachynlleth. Felly ro’n i allan o hyd. Ac mae’n bwysig, wrth gwrs, efo ffermio, i fod allan efo’r anifeiliaid ac i edrych arnyn nhw bob dydd, ac i tsecio fod ganddyn nhw fwyd a dŵr ac yn y blaen. 'Dw i'n nabod Talybont wrth gwrs achos 'dw i’n byw yma, ond dydi’r cysylltiad ddim mor ddwfn efallai.

Sara: Beth oedd pwynt dy PhD, a beth oedd hynna yn ei olygu o ran y ffordd roeddet ti'n byw dros y cyfnod yna?
Ffion: Roedd y PhD yn ymwneud â ffermio, ond hefyd gyda chelf. Trio ffeindio ffordd o esbonio sut beth yw bywyd fferm i’r cyhoedd. Dyna beth oedd y prif nod. Doedd y gwaith artistig ddim i’r ffermwyr eu hunain. Ro’n i wastad wedi teimlo fod 'na lot o farn am ffermio a chefn gwlad yng Nghymru, ac mae’r gwahaniaeth rhwng y bobl sydd yn dod yma i wneud ‘outdoor pursuits’, pethau hamddenol, cerdded ayyb, mae 'na ryw fath o 'disconnection' rhwng y bobl yna a’r ffermwyr, ro’n i’n teimlo.

Ro’n i eisiau creu gwaith oedd yn trio esbonio iddyn nhw, a siarad am y tensiynau rhwng y gwahanol bobl oedd yn defnyddio cefn gwlad. Nes i wneud pedair mlynedd o waith maes, sef ethnography, a bod gyda’r bobl yma, a gwrando yn astud ar beth redden nhw’n dweud, a chymryd lluniau. Ac wedyn ro’n i’n gwneud gwaith pob blwyddyn- gwaith ffilm, gwaith perfformio ayyb.
Sara: Wrth gwrs roeddet ti’n gyfarwydd gyda’r diwylliant yma yn barod, ond cafodd unrhyw beth newydd ei ddatgelu drwy’r broses yma? Sut fath o ddarganfyddiadau nes di, ti'n meddwl?
Ffion: ‘Dw i’n credu mai’r prif ddarganfyddiad o’r broses wnes i oedd y perthynas rhwng y ffermwyr a’u hanifeiliaid fferm, ac mor gymhleth oedd y berthynas yna rhwng y defaid mynydd Cymreig ar ffermwyr eu hunain. Roedd o lot fwy cymhleth nag o’n i wedi - dim bod i heb sylweddoli, ond ro’n i bron rhy ofnus i ddweud mor bwysig oedd y berthynas yna rhwng yr anifeiliaid a’r ffermwyr. 'Dan ni ddim yn meddwl am ein hanifeiliaid fel darnau o gig, neu arian, yn rhedeg o gwmpas ein tir. Dyw e ddim fel na, mae o’n berthynas mwy, mwy fel rhywun efo’u plant. Dach chi’n teimlo'r un cyfrifoldeb tuag atyn nhw, a dyna oedd fy mhrif nod: meddwl am ffordd gallwn i siarad am ffermio a chyfleu hyn i bobl, yn enwedig os does ganddyn nhw ddim byd i gymharu fe efo. Achos dyw o ddim yn waith, jest bywyd. Does dim gwahaniaeth rhwng bywyd a gwaith. Ti ddim yn dod adre ar ddiwedd y dydd a dweud: 'that was a good day in work'; mae bywyd a gwaith yr un peth. Felly roedd hynna yn rhan o’r broses, i ffeindio dulliau i siarad am hynna.

Sara: Beth am yr ochr gelfyddydol, mewn ffordd roeddet ti yn dy gymuned dy hun, ond roeddet ti yna yn holi a chymryd lluniau. Sut ti’n meddwl oedd pobl yn ymateb i’r gwaith roeddet ti’n ei wneud?
Ffion: Ar y cychwyn roedd ychydig o bryderon - 'ti mor agos i’r ymchwil'- ond o’n i’n teimlo mod i wedi gweithio gyda hunan-fywgraffiad o’r blaen. Ro’n i’n teimlo mod i’n gallu creu bach o bellter rhwng fy hun a beth ro’n i’n edrych arno. 'O’n i ddim yn poeni ond o’n i yn meddwl fod bach o nerfusrwydd am y ffaith mod i’n edrych ar fy nheulu fy hunan.
I ddweud y gwir, rhan bwysig o’r PhD oedd y ffaith mod i tu fewn i'r teulu, a thu fewn i'r fferm ro’n i'n ei nabod, ac felly roedd y gwaith yn fwy dwfn. Allwn i ddim bod wedi gwneud y gwaith yna heb y profiad o fod yna o fod yn blentyn ar y fferm, a gweithio gyda fy nheulu.

Sara: Ti di sôn am berthynas ffermwyr gyda’r anifeiliaid, ond beth am eu perthynas gyda’r tir? Achos un o’r pethau 'dw i'n teimlo fel person tu allan i fŷd ffermio- mae pobl yn aml yn sôn am ffermwyr fel gelyn yr amgylchedd. Oes gen ti deimladau am hynna, nes di ddatblygu dros y PhD?
Ffion: Mae elfennau yna, ond achos fod fy nheulu fi yn rhentu’r fferm, maen nhw'n teimlo’n gryf am y tir, wrth gwrs, ond efallai fod hynny'n ffactor. Mae 'na bolisïau newydd amaethyddol wedi dod i mewn, a rhai sydd wedi gorffen, sydd yn canolbwyntio ar agweddau amgylcheddol. Weithiau, mae 'na ryw fath o ‘blanket like approach’ i bawb, ond dyw pob fferm ddim yn elyn. Mae 'na rai, wrth gwrs, dydw i ddim yn siŵr am agribusiness, ond ffermydd mynyddog, mae hynna llawer mwy cymhleth. Os ti'n tynnu defaid oddi ar y mynydd mae pob math o bethau yn tyfu, fel brwyn a choed. Byddai rhai pobl yn hapus efo hynny, ond beth am y bobl sydd eisiau cerdded? Ti ddim yn gallu cerdded dros y mynyddoedd wedyn, a fyddech chi byth yn gallu mynd a defaid nol yna os yw hynna digwydd. Felly mae llawer o broblemau, a thensiynau rhwng bob mathau o bobl i wneud gyda ffermio mynyddog yng Nghymru, a Phrydain

Sara: I bobl tu allan i ffermio yng Nghymru, be ti'n meddwl yw'r stereotypes?
Ffion: Backwards, hen ffasiwn, pobl sydd ddim yn hoffi gweld pobl ar eu tir- ac i ryw raddau mae hynna yn wir. Mae’n dibynnu be ti'n neud ar eu tir nhw. 'Dw i’n cofio fy nhad wastad yn gallu bod bach yn grac yn gweld pobl yn cerdded, achos roedd pobl yn gadael giatiau ar agor, ac roedd rhai pobl wedi torri ffens achos doedden nhw ddim eisiau cerdded drwy bach o bog. Scramblers, wastad yn torri chaeniau oddi ar giatiau ayyb, ac mae o yn boen pan mae pobl yn ymddwyn fel 'na.

Sara: Efo prosiect ymchwil Cymerau, elli di ddweud sut fath o brosiect celfyddydol rwyt ti 'di cynnig, a pham?
Ffion: Ro’n i wedi gobeithio defnyddio rhai o’r technegau ro’n i wedi darganfod yn ystod neud y PhD a rhoi'r amser i wrando ar bobl yn eu lle, felly ro’n i wedi gobeithio gweithio gyda ffermwyr ar hyd yr afon Leri. Fyddai ddim yn gwneud gwaith celf gyda nhw. 'Dw i jest eisiau gwrando arnyn nhw yn eu hamser eu hunain, a gwylio nhw’n gweithio a thrio ffeindio storiau'r afon o’u hochr nhw, a beth mae’n ei olygu iddyn nhw.
Sara: Oes gen ti syniadau am be ti'n disgwyl darganfod- o gwbl?
Ffion: Oes- mae Tal-y-bont yn le gyda hen ddiwydiant o felinau gwlân, a chloddio am blwm, Felly fi'n credu bydd na storiâu yn gysylltiedig gyda hynna, yn dod allan o’r sgyrsiau yna. Falle ddim. Mae diddordeb gen i mewn prosesu gwlân, felly bydd hynny’n ddiddorol i glywed amdano. Falle golchi'r defaid yn yr afon yn yr hen ddyddiau, cyn iddyn nhw stopio gwneud hynna. Pethau fel 'na.

Sara: Efo ti, ydi dŵr yn rhywbeth ti di meddwl lot amdano, o ran dy waith, a dy fywyd? Mwy, efallai, na phobl eraill yn yr ardal?
Ffion: Dydw’i i ddim yn credu mod i wedi meddwl lot am ddŵr. Mae dwr jest yn rhan o fywyd, fel chwarae yn yr afonydd pan o’n i’n blant. Rhedon ni allan o ddŵr pan o’n i’n ifanc, dwi’n cofio, a buom ni allan i'r afon i nôl dŵr, a dyma nhw’n palu bore-hole yn nhy mam a dad, pethau fel 'na. Mae 'na wastad pin points yn llwybr bywyd ble mae dŵr wedi chwarae ar ein meddyliau efallai. Hefyd, fan hyn ar fferm ni, does dim afon 'da ni, felly rhaid i ni ffeindio ffordd o unigryw o gael dŵr i'n anifeiliaid ni. Felly lawr fanna, mae yna lyn bach a 'dan ni 'di pibellu dŵr o’r llyn, a'dan ni di cloddio i mewn i danciau’r anifeiliaid. Mae gennym ni drainpipe water collector. Pethau fel na, rhaid i chi feddwl am tsecio ar y dŵr i'r anifeiliaid o hyd. Achos dan ni ar dop Talybont, a mae’r dŵr lawr yn y gwaelod, rhaid i ni ffeindio ffyrdd o gael dŵr i’r anifeiliaid. Hefyd 'dw i'n credu yn y gwaith PhD o'dd dwr yn chwarae rôl yn rhai o’r delweddau. Mae 'na ‘recurring watery themes’ yn y gwaith, yn enwedig yn y ffilm olaf nes i.

Read more by Sara Penrhyn Jones