Nod y project Cymerau yw cael cymunedau yn Y Borth a Thal-y-bont a'r ardal gyfagos i gymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch dŵr. I gyflawni hynny, fe wnaethom wahodd ymarferwyr creadigol lleol i danio ein dychymyg gyda chynlluniau celf diddorol, naill ai fel unigolion neu dimau. Yng ngwefan Cymerau cafwyd gwybodaeth gefndir am y project a nodwyd y gofynion, megis syniadau ynghylch sut i hyrwyddo proses gyfranogol. Hefyd ar Ddiwrnod Dŵr y Byd, sef 22 Mawrth, fe wnaethom gynnal digwyddiad drwy'r dydd, a oedd yn gyfle i gyfnewid syniadau am y project a'i amcanion. Yna cyflwynwyd cynigion drwy ffurflen ar-lein a oedd yn casglu gwybodaeth am syniadau cynigion, safle(oedd) dewisol, dulliau o ymwneud â'r gymuned, cyllideb a phrofiad blaenorol yr arlunwyr.
Cyflwynwyd 30 o gynigion i gyd. Cawsant eu harchwilio yn erbyn meini prawf sgorio a oedd yn cyd-fynd ag amcanion y project Cymerau/Hydroddinasyddion. Roedd yna hefyd nifer o ofynion ymarferol cyffredinol, megis: ffitio o fewn y gyllideb, amrywiaeth gwaith creadigol ar draws disgyblaethau, ennyn diddordeb cymunedau amrywiol, mathau o ddŵr, ymarfer dwyieithog ac a oedd y cynlluniau'n ddichonadwy ai peidio. Dewiswyd rhestr fer o ddeg ac yna cafodd yr unigolion neu'r timau hyn eu cyfweld i drafod datblygiad posibl eu project, ac i edrych yn fwy manwl ar gyllidebau a methodoleg. O ganlyniad, mae'r deg artist hyn wedi cael cynnig comisiynau i weithio gyda Cymerau am flwyddyn, o hydref 2015 i haf 2016 gyda phrojectau gwahanol yn cael eu cynnal ym mhob tymor. Ar ddiwedd pob tymor cynhelir digwyddiad i rannu a thrafod y gwaith a gynhyrchwyd.
Yn ystod y tymor cyntaf, sef hydref 2015, bydd yr arlunydd aml-gyfrwng Esther Tew, sy'n gweithio gyda gosodiadau sain a golau, yn arwain nifer o arlunwyr Y Borth i greu Water, Water Everywhere. Y syniad yw creu oriel goridor awyr agored ar hyd stryd fawr Y Borth, gyda gwaith fydd yn edrych ar effeithiau codiad yn lefel y môr ar gymunedau ar draws y byd. Bydd y project yn cynnwys trigolion lleol, yn cynnwys y bobl sy'n byw yn y tai ar y stryd a rhai sydd wedi bod yn ymwneud â'r cynlluniau i atal llifogydd yn Y Borth.
"Rydym eisiau dangos tebygrwydd a chysylltiad rhwng materion llifogydd a newid hinsawdd yma ym Mhrydain ac yn fyd-eang, gan ysgogi llawer o drafod anodd, ond angenrheidiol, ynghylch gwahanol raddfeydd y trychineb, yr achos, y goblygiadau ac yn y blaen. Mae'r rhain yn drosglwyddadwy gan eu bod yn ymwneud â threfi eraill mewn sefyllfaoedd cyffelyb, wrth i achosion o lifogydd waethygu ar draws gwledydd Prydain a'r byd."
Y cyfranogwyr eraill yw: Tom Gunn (ffotograffydd celfyddyd gain), Alex Randall (Climate Outreach Information Network), Helen Kennedy, Anne Ferris, a Bodge (i gyd yn arlunwyr cymunedol).
Mae Helen Kennedy yn arwain grŵp arall yn Y Borth, gyda sgiliau sy'n cynnwys gwaith coed, cerfluniaeth, garddio organig, parafaethu, ffotograffiaeth ac ysgrifennu caneuon. Byddant yn adeiladu The Water Shed, canolbwynt gweithgaredd yng Ngerddi Cymunedol Y Borth. Caiff ei wneud o ddeunyddiau a gafwyd trwy ddulliau cynaliadwy, megis coed wedi eu hailddefnyddio a drysau gwydr hen beiriannau golchi fel ffenestri. Cynllunnir y to fel y gellir casglu dŵr glaw oddi arno mewn nifer o gynwysyddion a'i ddefnyddio wedyn yn y gerddi. Bydd y gweithgaredd hwn yn dechrau nifer o weithdai yn yr Ardd Gymunedol, a fydd yn edrych ar faterion yn ymwneud â dŵr mewn ffyrdd creadigol a llawn hwyl.
Bydd Nick Jones, Anne Marie Carty a Dafydd Sills-Jones yn gweithio gyda'r gymuned leol i gynhyrchu ffilm a seinwedd, Y Gors, ynghylch Cors Fochno. Mae'r gors hon o bwysigrwydd rhyngwladol yng nghanol yr ardal astudiaeth achos ac mae'n ganolog i'r draeniad o systemau dŵr o'i hamgylch.
"Mae gan y pentrefi o amgylch Cors Fochno safle diddorol o fewn y system hon, ac mae eu trigolion yn rhan o'r system... Byddwn yn gwneud ffilm gyda'r gymuned a fydd yn dod â sawl haen o brofiad unigol at ei gilydd, gyda Chors Fochno'n ganolbwynt i'r cyfan."
Mae Nick Jones yn gyfansoddwr lleol a bydd seinwedd gymhleth y ffilm yn cynnwys côr cymunedol Y Borth, Côr y Gors, y mae'n gyfansoddwr preswyl iddynt. Gwneuthurwr ffilm sy'n arbenigo mewn gweithio gyda chymunedau yw Anne Marie Carty. Mae Dafydd Sills-Jones yn wneuthurwr ffilm a darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Project a gynhelir drwy'r Gymraeg yw Penillion y Leri. Bydd Gwilym Morus Baird, bardd, cerddor ac astudiwr llên gwerin yn gweithio gyda grŵp o bobl sy'n byw ym mhentref Tal-y-bont a'r cyffiniau. Dros gyfnod o nifer o fisoedd bydd yn eu mentora i lunio cerddi a fydd yn adlewyrchu tirwedd Afon Leri gerllaw a themâu'n gysylltiedig â dŵr yn yr ardal.
"Nod y project yma yw ysbrydoli trigolion ardal Tal-y-bont i lunio cerddi Cymraeg am Afon Leri. Gosodir detholiad o'r cerddi hyn i gerddoriaeth a chânt eu recordio a'u perfformio ac yna'u cyflwyno hefyd ar ffurf llyfryn."
Yn ystod y gaeaf/gwanwyn bydd Jo Munton, pypedydd a choreograffydd gyda theatr ieuenctid rhyngweithiol, yn gweithio gyda chydweithiwr, Owen Glynne Davies mewn ysgolion yn Nhal-y-bont a'r Borth i gynhyrchu Hydroscope.
"Hoffem edrych yn greadigol ar themâu'n ymwneud â dŵr gyda disgyblion cyfnod allweddol 2 yn ysgolion cynradd Y Borth a Thal-y-bont. Y nod fydd edrych ar faterion, agweddau, ffeithiau a storïau’n ymwneud â dŵr gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a ffurfiau celf (gwahanol fathau o bypedau, barddoniaeth, dawns, "haka", paentio tywod ac animeiddio). Canlyniad hyn i gyd fydd sioe ar y diwedd. Byddwn yn gwneud hyn yn ddwyieithog."
Caiff Kate Doubleday, cerddor ac amgylcheddwr cymunedol, ei chyllido yn y lle cyntaf i edrych ar ymarferoldeb y Project Pibell Ddŵr, a fydd yn creu darn o gelf amgylcheddol/lle chwarae gwyllt o amgylch y bibell ddŵr hyll ar draeth Y Borth. Yn y project bydd grŵp o bobl ifanc yn llunio cynllun ar gyfer gwaith cerflunio o amgylch y bibell a gweithio drwy'r broses o gael caniatâd i weithredu hynny.
"Byddaf yn annog y bobl ifanc yng nghymuned Y Borth i ddod yn fwy ymwybodol o ddŵr yn eu bywydau eu hunain a'u hamgylchedd lleol, ac edrych ar y cyswllt rhwng yr afonydd a'r môr. Mae'r bibell ddŵr yn symbol o'r cyswllt hwn, cyfrwng dysgu creadigol i archwilio a deall o lle mae dŵr yn dod, pa effaith hir dymor y mae'r dŵr hwnnw'n ei gael ar ein bywydau yn Y Borth, a pha gynefinoedd bywyd gwyllt sy'n bodoli o'i gwmpas."
Yng ngwanwyn 2016 bydd Jane Lloyd Francis a Jess Allen yn rhyngweithio drwy eu projectau cysylltiedig; bydd Jane yn cerdded hyd yr Afon Leri, tra bydd Jess yn dilyn llwybr y bibell ddŵr o'r gwaith trin yn Bontgoch i'r allanfa yn Y Borth.
Meddai Jane: "Fy nghynllun i (Ar Lan y Leri) yw cael pererindod ddŵr o darddiad y Leri, yng Nghraig y Pistyll, ar hyd yr afon i'r Borth, lle mae'n llifo i'r môr. Bwriad y daith yw ymchwilio i wahanol gysylltiadau ac ysgogi sgyrsiau a chreadigrwydd. Yr afon fydd ein hysbrydoliaeth wrth i ni gyfarfod ag unigolion a chymunedau ar hyd ei glannau."
Bydd y canwr-cyfansoddwr caneuon Gwilym Morus Baird yn cydweithio â Jane i gyfleu a pherfformio profiadau'r bererindod afon hon.
Mae Jess Allen yn disgrifio Water Treatment Walk fel perfformiad cerdded gwledig i gasglu canfyddiadau, atgofion a straeon ynghylch o ble mae ein dŵr yn dod a sut rydym yn ei 'drin', yn gemegol (i'w wneud yn ddiogel a 'defnyddiol') ac yn ddiwylliannol (gyda dihidrwydd neu barch).
Caiff Boz Groden ei gomisiynu i wneud Map Dŵr, gweithgaredd fydd yn parhau gydol y flwyddyn. O ganlyniad i sgyrsiau gyda phobl sydd ag amrywiaeth o ddiddordebau a phryderon yn ymwneud â dŵr yn rhan Y Borth/Cors Fochno o'r ardal astudio, bydd Boz yn creu map 'copi caled' drwy dynnu lluniau doniol a fydd yn cofnodi'r mannau a'r materion a drafodwyd. Bydd elfen ryngweithiol i'w waith hefyd drwy gynnwys cyfnewid syniadau a delweddau ar-lein.
"Mae'n delio â ffynhonnell a defnyddio dŵr ac ymwneud y gymuned ehangach â'i werth, bygythiadau iddo a'i ddefnydd gennym ni ac eraill yn y dyfodol. Bydd yn gofnod gweledol o 'seicoddaearyddiaeth' dŵr yn yr ardal."
Yn ogystal â'r projectau a gomisiynwyd, mae Cymerau eisoes wedi dechrau sefydlu cefndir i'r project blwyddyn a dechrau ymwneud â phobl mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae nifer o ymarferwyr creadigol wedi cael comisiynau byr cynharach i roi cychwyn ar y gweithgareddau artistig hyn. Mae'r chwedleuwr Peter Stevenson eisoes wedi gwneud ffilm-stori am Y Borth ac mae'n gweithio gydag Adnoddau Naturiol Cymru i gynnig teithiau cerdded-stori o amgylch gwarchodfa ryfeddol a hudolus Cors Fochno. Mae Jude Macklin, gan gydweithio â'r beirdd a'r addysgwyr Eurig Salisbury a Gwilym Morus Baird, wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd i edrych ar lannau afonydd a glan y môr drwy ddelweddau graffig a geiriau. Fe wnaeth hefyd gynnwys ei gŵr, Mark Macklin yn ei gwaith yn yr ysgolion (Athro Daearyddiaeth Ffisegol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd). Bydd Jo Munton yn cynnal gweithdy rhagarweiniol i ysgolion i gyflwyno themâu a all gael eu defnyddio yn ei gwaith diweddarach. Mae Ffion Jones yn adeiladu'n raddol ar ei pherthynas bresennol â'r gymuned amaethyddol o amgylch Tal-y-bont i gynhyrchu ffilm a ffotograffiaeth a fydd yn edrych ar eu perthynas hwy â dŵr.
Mae arlunwyr dan arweiniad Jenny Hall yn adeiladu Môr-ddraenog, sef adeiledd sy'n arnofio sy'n ennyn diddordeb pobl yn symudiad dŵr, llanw a thrai ac arsylwi'r môr. Bydd y Môr-ddraenog yn ganolbwynt cyfarfod lansio Cymerau yn Y Borth ar 20 Mehefin.
Gwybodaeth gefndirol
Mae Cymerau yn rhan o astudiaeth academaidd ledled Prydain, sef 'Hydroddinasyddiaeth' (2014-17), lle cyfunir ymchwil academaidd gyda chyfranogiad cymunedau a gweithgareddau creadigol. Yn lleol, mae Cymerau'n bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor a phartneriaid cymunedol, Creu-ad ac Ecodyfi. Rydym yn cael ein cynghori gan arbenigwyr mewn hydroleg, newid hinsawdd a'r celfyddydau cyfranogol. Rydym yn siarad hefyd â gwneuthurwyr polisi a sefydliadau sy'n gweithio yn y maes.
Rhagor o wybodaeth:
Cyllidir y project hwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) fel rhan o'r rhaglen Cymunedau Cysylltiedig. Amcanion y rhaglen hon yw meithrin cydweithio cadarn rhwng ymchwilwyr a chymunedau i gynhyrchu gwybodaeth ymchwil bwysig ar y newidiadau yn swyddogaeth cymunedau o ran cynnal a chyfoethogi ansawdd ein bywydau, rhywbeth a fydd o werth i ymchwil yn y dyfodol ac i gymunedau yn gyffredinol. Arweinir y rhaglen gan yr AHRC mewn partneriaeth â chynghorau ymchwil eraill ac ystod o sefydliadau eraill.
Gweledigaeth y rhaglen
Hyrwyddo'r potensial i gael cymunedau cynyddol ryng-gysylltiedig er mwyn cryfhau hunanddibyniaeth, ffyniant, cynaliadwyedd, iechyd a lles drwy gysylltu ymchwil, budd-ddeiliaid a chymunedau'n well.